Nid oes derfyn/terfyn ar flynyddau

1,2,3,4,5;  1,2,4.
Nid oes derfyn ar flynyddau
  Yn y wlad a welaf draw;
Nid yw myrdd o oesoedd hirion
  Yno'n unig ond led llaw;
Sylwedd ydyw'r oll sy'n dyfod -
  Oll sy'n dyfod sy'n parhau,
Pethau gwych heb eu cymmysgu
  Gaf ar fyrder eu mwynau.

Yno erys fy nedwyddwch,
  Heb gymmysgu, fyth yn un;
Digyfnewid Gwrthrych cariad
  Felly cariad pur ei hun:
'Run fydd Duw i dragwyddoldeb -
  Môr o gariad heb ddim trai;
Fel Efe bydd fy hapusrwydd -
  Ffrwd liferiol yn parhau.

O! mor hyfryd yw'r meddyliau
  Fod yr amser hyny ar ddod;
Y mae'r hiraeth sy'n fy nghalon
  Heb un terfyn iddo'n bod;
'Dall yr holl greadigaeth eang,
  Na'i gogoniant o un rhyw,
Lanw 'nghri, na llanw f'enaid,
  Na dim arall ond fy Nuw.

Yno llenwir fy nymuniad,
  Er ei faint ac er ei gri,
Fy holl wagter wneir i fynu,
  Gyda'r Duwdod - Un yn Dri;
Mi gaf yfed o ffynnonau,
  Gwir ddedwyddwch, a'm dyfrhau
A dadguddiad pur o fywyd,
  A llawenydd i barhau.

Mi gaf glywed cydsain hyfryd
  Digrëedig Dri yn Un,
Yn cyhoeddi heddwch nefol,
  Perffaith, wrthyf fi fy hun:
Saint, seraphiaid, ac angylion, -
  Mewn rhyw gydsain bena' erioed,
Gyda mi yw seinio'r anthem
  Am anfeidrol, ddwyfol glod.
William Williams 1717-91

Tôn [8787D]:
Dismission (J F Wade c.1711-86)
Edinburgh (alaw Gymreig)
Llanfaches (alaw Gymreig)

gwelir:
  Capten mawr ein hiachawdwriaeth/hiechydwriaeth
  Llawen ydwyf fod dy hanfod
  Minau bryfyn gwael o'r ddaear
  O mor hyfryd yw'r meddyliau
  'Rwy'n dy garu addfwyn Iesu

There is no limit to years
  In the land I see yonder;
There a myriad of long ages is
  Nothing but a hand's breadth;
Real is all that is coming -
  All that is coming is enduring,
Brilliant things without being mixed
  That I will get shortly to enjoy.

There abides my happiness,
  Without mixing, forever the same;
The unchanging Object of love
  Like pure love itself:
The same will be God for eternity -
  A sea of love without any ebbing;
Like Him will be my happiness -
  A flowing stream continuing.

O how delightful are the thoughts
  That this time is about to come;
The longing that is in my heart is
  Without any end to it at all;
All the wide creation cannot,
  Nor its glory of any kind,
Fill my cry, nor fill my soul,
  Nor can anything else but my God.

There is my desire to be fulfilled,
  Despite its extent and despite its cry,
My whole emptiness is to be made up,
  With the Trinity - One in Three;
I will get to drink from wells,
  True happiness which is watering,
And a prue revelation of life,
  And joy to continue.

I shall get to hear the delightful harmony
  Of the uncreated Three in One,
Publishing heavenly, perfect
  Peace to me myself:
Saints, seraphim, and angels, -
  In some chiefest ever harmony,
With me are sounding the anthem
  About immeasurable, divine acclaim.
tr. 2016,20 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~